It’s the end of ‘business as usual’. The time has come to weave together a new social reality in alignment with our values, and to create an economic system that benefits us all – a system that breaks through the false dilemma of austerity and consumption.
Mae’r cyfnod ‘busnes fel arfer’ ar ben. Mae’n bryd creu realiti cymdeithasol newydd sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd, a chreu system economaidd o fudd i bawb – system fydd yn trechu penbleth ffug caledi a defnydd.
This course is one of the products of the Well & Good Project and is designed for community activists and organisers, policy makers, development workers, advocates for the ‘new economy’ and anyone interested in sparking community-led change.
Mae’r cwrs yma wedi deillio o’r Prosiect Iach a Da; fe’i targedir at unigolion sy’n weithgar ac yn trefnu gweithgareddau cymunedol, pobl sy’n gyfrifol am lunio polisïau, gweithwyr datblygu, eiriolwyr ar ran yr ‘economi newydd’ ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn ysgogi newid dan arweiniad y gymuned.
We explore a new approach to creating local economic change based on real life needs, increasing wellbeing, and taking effective action led by community groups.
Byddwn yn ystyried agwedd newydd tuag at newid yr economi lleol a seilir ar anghenion bywyd go iawn, gwella llesiant a gweithredu mewn ffordd effeithiol dan arweiniad grwpiau cymunedol.
The course includes practical tools to engage your community, thought provoking presentations, group discussions and fun interactive exercises that will equip you to be an effective change-maker in your community
Mae’r cwrs yn cynnwys arfau ymarferol i ymgysylltu â’r gymuned, cyflwyniadau diddorol, trafodaethau grŵp ac ymarferion rhyngweithiol ysgafn fydd yn eich paratoi i sicrhau newid yn eich cymuned mewn ffordd effeithiol.